Powys
Pam mae Powys yn lle da i fyw ynddo?
Mae Powys yn sir drawiadol tu hwnt sy’n cynnig golygfeydd hardd a thirweddau gogoneddus gydag eangderau gwyrddlas a threfi marchnad bywiog. Mae gan y sir theatrau rhagorol, treftadaeth fywiog o ddiwylliant Cymreig a chylchoedd llewyrchus o ran y celfyddydau a chrefftau. Mae Powys yn gartref i rai digwyddiadau gwych.
Darllen Pellach
Pris Cyfartalog Tŷ
Tŷ dau dalcen – £372,237
Tŷ un talcen – £204,738
Mewn rhes – £167,729
Fflatiau – £93,820
Pris cyfartalog tŷ ym Mhowys yn y 12 mis diwethaf yw £269,922.
Rhent gyfartalog am dŷ 2 ystafell wely gan gymdeithas dai – £100.11
Tai cymdeithasol – 8,871
Nifer gyfartalog ar aelwyd – 2.20
58,345 o aelwydydd ym Mhowys
Iechyd ym Mhowys
Roedd 48.6% o drigolion Powys yn disgrifio eu hiechyd fel “da iawn”, a hynny’n gynnydd o 46.9% yn 2011. Bu gostyngiad yn y ganran a ddisgrifiai eu hiechyd fel “da” o 33.9% i 33.5%. Cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yw’r rhain.