Ceredigion

Pam mae Ceredigion yn lle da i fyw ynddo?

Mae ei thraethau, ei phentrefi, ei phrisiau isel am dai a’i hansawdd bywyd wedi ennill y safle uchaf iddi mewn arolwg barn newydd.

Pan gymharodd yr arolwg ffactorau sy’n dylanwadu ar ansawdd bywyd, daeth y sir yn bumed ar ôl Wokingham goediog a Chiltern, ond pan gymerwyd prisiau eiddo i ystyriaeth, fe ddaeth yn gyntaf.

Pris Cyfartalog Tŷ

Tŷ dau dalcen – £352, 439

Tŷ un talcen – £209, 928

Mewn rhes – £205, 330

Fflatiau – £202, 303

Tirwedd Ceredigion

Gwir hanfod cefn gwlad Cymru – tirwedd llawn bywyd gwyllt yn cynnwys tir amaeth, dyffrynnoedd coediog a threfi marchnad bach ond gwydn, pob un â’i chymeriad a’i hanes ei hun. Dewch i adnabod y wir Geredigion ar hyd ein lonydd cefn gwlad, ein llwybrau ceffylau a’n troedffyrdd, a mwynhewch natur a’r awyr liw nos wrth iddynt newid gyda’r tymhorau.

Aberystwyth sea front at night
Llanon
Penbryn