Amdanom ni

Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru ill dau eu bod wedi cychwyn ar daith i archwilio cydweithio agosach rhwng y ddau landlord.

Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn lle i ddatblygu mwy byth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol am gyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer staff a thenantiaid yn rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru. Mae cyfleoedd newydd cyffrous yn dod yn sgil yr uno i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.

 300 o weithwyr cyflogedig, rydym yn perchenogi ac yn rheoli mwy na 4,200 o gartrefi ar draws Ceredigion, Powys, Gogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau i denantiaid gan gynnwys rhent, atgyweiriadau, a chyngor am fudd-daliadau lles.

Mae Barcud yn anelu at ddarparu 5,000 o gartrefi cynaliadwy, fforddiadwy, deiliadaeth gymysg, o safon uchel yng Nghymru erbyn 2026.

Mae’r Grŵp yn cynnwys Gofal a Thrwsio ym Mhowys, EOM, a’r Gymdeithas Gofal.

 

Organisation Chart

Ein gwerthoedd

Mae set eglur o werthoedd yn helpu i yrru ein hamcanion strategol.

Committed

YMRWYMIAD

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu sylfeini cadarn ar gyfer bywyd

Committed

BALCHDER

Rydym yn ymfalchïo yn yr hyn a wnawn, ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn ei wneud yn dda

Committed

PARCH

Rydym yn parchu’r bobl yr ydym yn gweithio gyda hwy ac iddynt, ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad a wnânt

Committed

GOFAL

Mae ein pobl, ein cymunedau, ein diwylliant, ein gwlad a’n planed yn bwysig inni

Committed

TÎM

Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr, ein tenantiaid, ein cymunedau a’n partneriaid i helpu ein gilydd i lwyddo

Ein hardal

Our Area Map