Ymuno â’n bwrdd

Llythyr croeso

Diolch am ddangos diddordeb yn y cyfle cyffrous hwn sydd ar gael i ymuno â Bwrdd Grŵp Barcud. Mae’n adeg wych i ymuno â Grŵp Barcud a helpu i ffurfio’r gwasanaethau a dyfodol y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ar draws y canolbarth.

Mae gan Barcud dros 4,000 o gartrefi ac roedd ei drosiant yn 2023 yn £28.7 miliwn. Felly, dyma’r gymdeithas dai fwyaf sydd â’i gwreiddiau yng nghymunedau’r canolbarth, a dyma’r partner naturiol i’r sawl sydd am ddarparu tai, cyflogaeth a chyfleoedd datblygu ehangach yn y rhanbarth.

Mae Barcud yn fwy na chymdeithas dai; yn ogystal â darparu gwasanaethau landlord, mae hefyd yn cynnig atebion cynhwysfawr o ran tai, gwasanaethau cynnal a chadw a chymorth, a hynny drwy ei dri is-gwmni. 

Mae cynnwys tenantiaid a phreswylwyr yn wirioneddol yn ei waith yn elfen gwbl sylfaenol o ffordd Barcud o weithio, ac mae’r Bwrdd yn cynnwys y tenantiaid wrth ddatblygu polisïau a strategaethau. Dyma un o’r ffyrdd niferus y mae Barcud wedi’i wreiddio mewn cymunedau ar draws y canolbarth a’r gorllewin.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n rhannu ein huchelgais a’n hymrwymiad i ddarparu’r cartrefi a’r gwasanaethau gorau posibl i bobl y canolbarth, fel aelod o Fwrdd Grŵp Barcud.

Mae Grŵp Barcud wedi ymrwymo i ddatblygu unigolion er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial. Mae’r ymrwymiad hwn i ddysgu a datblygu’n cynnwys Aelodau Bwrdd, a bydd rhaglen sefydlu gynhwysfawr yn cael ei darparu i’r unigolion llwyddiannus. Bydd Aelodau Bwrdd newydd yn cael cyfle i gael eu mentora gan Aelod Bwrdd presennol a bod yn rhan o’r rhaglen o arfarniadau Aelodau Bwrdd a gyflawnir gan y Cadeirydd.

Mae rhagor o wybodaeth am Grŵp Barcud ar gael ar y wefan: www.barcud.cymru

Rwy’n gobeithio y bydd y pecyn recriwtio hwn yn eich ysbrydoli i ymgeisio.

Yr eiddoch yn gywir

Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd Barcud